
Rydym wedi bod ynghlwm mewn nifer o Dysgwrdd yn arwain at yr Haf ac wedi mwynhau pob un yn fawr iawn. Nid ydym byth yn blino ar frwdfrydedd athrawon wrth rannu syniadau a down o bob un wedi dysgu rhywbeth newydd.
Cychwynnodd #TMflints gyda Dysgwrdd wedi’i neilltuo i rannu syniadau fydd yn codi safonau mewn llythrennedd. Cynhaliwyd fin nos braf yn yr Wyddgrug ac roeddem wedi synnu at y nifer o athrawon a fynychodd. Gwelsom ddeunydd gwych a syniadau newydd. Gellir gwylio’r fideos o’r digwyddiad yma drwy glicio ar y ddelwedd isod.

Y nesaf oedd Dysgwrdd HOVEP yn cael ei ddilynodd Gynhadledd HOVEP ‘Dysgu ac Addysgu Rhagorol – Sut y gall technoleg helpu?’ Os hoffech wylio’r cyflwyniad yn y gynhadledd gellir ei wylio drwy glicio ar y ddelwedd isod.

Mynychodd nifer fawr o ymarferwyr ar draws y sectorau ar gyfer y Dysgwrdd hwn, ac rwy’n siŵr i bob un a fu yno dderbyn rhywbeth y gallent ei ddefnyddio yn eu sefyllfaoedd eu hunain oddi wrth bobl na fyddai ganddynt y siawns yn arferol i drafod gyda hwy. Roedd ein meistr ni ar ei orau ac fe’n difyrrodd oll gyda’i gyflwyniad. Gwyliwch ef, ac un pawb arall drwy glicio ar y llun isod.

Yna bu raid i ni ei symud drosodd i Gasnewydd ar gyfer Dysgwrdd Sant Julian – eto tŷ llawn a syniadau disglair. Bu i ni adael wedi’n hysbrydoli gan sgiliau trefnu Kimberley … Dysgwrdd cyntaf gwych i Gasnewydd. Gwyliwch y fideos isod.

Yn y cyfamser, roedd Hywel yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd yn ffilmio Dysgwrdd Cymraeg. Dywedir wrthym unwaith eto ei fod yn ddigwyddiad gwych wedi ei drefnu gan Jo Knell o Wasanaeth Ymgynghorol Caerdydd, a bod yr athrawon a gymerodd ran yn ysbrydoliaeth. Gellir gwylio’r ffilmiau a recordiodd Hywel eu gweld yma.

Yn olaf, gorffennodd y mis gyda Dysgwrdd cyntaf Torfaen a gynhaliwyd yn Ysgol y Bontfaen. Roedd yn ddigwyddiad cartrefol o’i gymharu gyda rhai o ddigwyddiadau mawr eraill y buom ynddynt yn ddiweddar, ond roedd y lefel brwdfrydedd a’r syniadau yn wych i’w gweld. Gellir gwylio’r fideos isod.

Hoffem ddiolch i’r holl ymgynghorwyr, athrawon a’r ysgolion fu’n westai, a weithiodd mewn partneriaeth gyda ni i wneud y digwyddiadau hyn yn gymaint o lwyddiant.
Edrychwn ymlaen at gefnogi mwy o gyfarfodydd Dysgwrdd yn nhymor yr Hydref.
cheap cialis
cialis

Gall fod ymwelwyr rheolaidd, neu athrawon sydd wedi mynychu cyfarfodydd Dysgwrdd diweddar wedi sylwi fod tîm GCaD Cymru wedi dod yn hoff iawn o gasglu adnoddau drwy ddefnyddio Scoop.it!

Mae wedi bod yn ffordd wych i ni roi mynediad cyflym a hawdd i athrawon at yr adnoddau y canolbwyntiom arnynt yn y cyflwyniadau. Nawr rydym wedi penderfynu y byddai’n ffordd wych o gasglu adnoddau ar draws ein lleoliadau a lleoliadau eraill, i adeiladu pecynnau y byddai athrawon yn eu cael yn ddefnyddiol.
Felly rydym wedi ychwanegu botwm newydd ar y bar offer llwyd at y top o’r enw ‘Casgliadau o Adnoddau’.

Oddi yma gallwch gael mynediad at ein holl adnoddau Scoop.it. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’n ôl yn gyson gan y bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n aml.
Posted in Uncategorized
|
Tagged A/AS Level, adnoddau, CA1, CA2, CA3, CA4, dysgwrdd, EY, KS1, KS2, KS3, KS4, Resources, TeachMeet, U/UG
|

Fe hoffem roi llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion CA2 ysgol Casllwchwr, sydd, mewn cydweithrediad â Paul Godding, wedi creu ap mathemateg ar gyfer disgyblion CA1 (Saesneg yn unig).
Lansiwyd yr App, a elwir Cas Maths, ar storfa iTunes ar Orffennaf 17 eg ac mae ar gael i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim trwy glicio ar y llun isod.


Mae PentrePeryglon yn ganolfan ryngweithiol sy’n darparu addysg diogelwch penodol i blant a phobl ifanc. I addysgu plant, phobl ifanc a phobl gregus eraill ymwybyddiaeth o ddiogelwch er mwyn gostwng y nifer o achosion a marwolaethau ac anafiadau damweiniol, ac i hybu iechyd, lles a Diogelwch Cymunedol.
Mae PentrePeryglon ar agor dros wyliau’r haf felly ymunwch a’r Canolfan rhyngweithiol a chwiliwch am y peryglon, atebwch gwestiynau ditectif a chwblhewch motto PentrePeryglon.
I dderbyn mwy o wybodaeth am y Canolfan yna dilynwch y cysylltiad yma:
http://www.dangerpoint.org.uk/pagecym.asp?ID=1&subID=0
Sorry, this entry is only available in English.
Nod yr adnodd hwn yw addysgu Cristnogaeth gan ddefnyddio rhai profiadau bywyd go iawn teulu Cristnogol yng Ngogledd Cymru. Mae’r adnodd yn anelu at ddatblygu dealltwriaeth o’r ffordd Gristnogol o fyw drwy lygaid plant Cristnogol a’u teulu. Mae pob adran wedi cael ei hystyried yn ofalus iawn fel bod yr athro yn gallu ymdeimlo â phrofiadau’r disgyblion a bywydau’r plant a’r teulu sy’n ymddangos yn yr adnodd.
Dylai’r fideos sydd yn y pecyn ennyn diddordeb y plant a gall yr athro ddefnyddio’r cwestiynau a ymgorfforwyd i arwain y disgyblion. Gellir oedi’r fideos neu eu hailddirwyn ac ati fel bo’r athro yn gallu datblygu syniadau’r dysgwyr wrth i’r wers fynd yn ei blaen. Dylai’r ffaith bod teulu Cristnogol modern wedi’i ddefnyddio fod o gymorth i bortreadu bywyd modern Cristion a dylai’r disgybl modern yng Nghymru fedru perthnasu eu bywydau eu hunain â hyn.
Mae hefyd amrywiaeth o weithgareddau Asesu ar gyfer Dysgu, yn weithgareddau cychwynnol a phellach, y gall yr athro alw arnynt o fewn yr adnodd fel bod y disgyblion yn gallu defnyddio eu sgiliau meddwl i ddatblygu eu syniadau. Mae natur y gweithgareddau yn benthyg eu hunain i drafodaeth a gwneud penderfyniadau a dylai disgyblion fod yn fwy cymwys i ddechrau ar unrhyw weithgareddau pellach. Datblygwyd pob gweithgaredd gan ddefnyddio agweddau ar Gristnogaeth er mwyn i’r dysgwyr fedru awgrymu’r hyn sy’n debyg ac yn wahanol i’w bywydau nhw eu hunain.
Mae arweiniad a syniadau cynhwysfawr i athrawon ar gyfer gwersi wedi’u cynnwys o fewn yr adnodd a gellir lawrlwytho’r pecyn cyflawn i’w storio ar gyfrifiaduron unigol. Gellir datblygu pob un o’r syniadau gwersi gan ddefnyddio’r syniadau a awgrymir neu feddalwedd addas arall.
Gobeithio y bydd yr adnodd o ddefnydd i chi:
http://www.ngfl-cymru.org.uk/cym/vtc-home/vtc-ks2-home/vtc-ks2-re/vtc-ks2-re-christianity/the-life-of-a-christian-child.htm


Mae cyfle i wneuthurwyr ffilm ifanc i ennill camera fideo arbennig a diwrnod o hyfforddant mewn sgiliau bywyd gan y Fyddin ar gyfer dosbarth ysgol mewn cystadleuaeth Fideo dan nawdd Llywodraeth Cymru. Pwrpas y gystadleuaeth yw gweld a yw pobl ifanc yn credu ein bod yn barod ar gyfer argyfyngau yng Nghymru. I dderbyn mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth yna dilynwch y cysylltiad yma:
http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/uwchradd/hwyl-a-sbri/cystadlaethau/
Pob hwyl!