Pontio’r Blwch – Dysgwrdd – Coleg Llandrillo

Roedd y cyfarfod Cwrdd I Ffwrdd hwn yn bluen yn het Cymru, gydag ymarferwyr o’r sectorau ysgolion a cholegau yn dod ynghyd i rannu adnoddau a syniadau. Roedd yn noson wych, yn gyforiog o gyflwyniadau gwerthfawr a chyfle rhagorol i rwydweithio ar draws y sectorau.

Dechreuodd y noson gyda Zoe Evans o Ysgol Eirias yn siarad am y ffordd y mae ei hadran yn gwella dysgu mewn mathemateg.

 

Yna siaradodd Allen Heard o Ysgol Bryn Eilian am y prosiect arweinyddion digidol yn ei ysgol ef.

 

Eglurodd Paul Richardson, gyda chymorth dau wirfoddolwr (Karen a David), sut y gall chwarae rôl wella’r profiad dysgu myfyrwyr hŷn.

 

Yn ôl ag Allen Heard wedyn i drafod dysgu seiliedig ar gymylau:


A dangosodd Karen Ford o GCaD Cymru adnodd Seibr-ddiogelwch gwych ar gyfer dysgwyr ôl-16, a grewyd gan Goleg Glannau Dyfrdwy ac sydd ar gael ar ein safle.

Eglurodd Robin Trangmar o Goleg Llandrillo am dacsonomeg solo, a’i werth i ni.

A doedd dim dal yn ôl ar Kath Holton o Ysgol Argoed wrth iddi ein gwibio drwy’r offerynnau sydd ar gael am ddim ar y we i’w defnyddio yn y dosbarth.

 

Yna daeth y cyntaf o ddau gyflwyniad gan Colin Graham – yn dangos inni sut i ddefnyddio Trydar yn effeithlon at ddibenion addysgol.

 

Gan Pete Richards o Goleg Llandrllo cawsom sgwrs hwyliog a llawn gwybodaeth ar brosiect llythrennedd digidol y coleg.

 

Yn dilyn yn dynn wrth sodlau Pete daeth y bós – Dafydd Watcyn Williams, o’r GCaD a oedd lawn mor hwyliog ag yr oedd yn addysgiadol. Dangosodd i bawb sut y mae’n hadnoddau yn datblygu meddwl ac yn gwella dysgu a sut y gall ymarferwyr ddidoli ein hunedau i greu eu gweithgareddau unigryw eu hunain.

 

A rhag ofn fod rhywrai wedi mynd i feddwl na elld cael cyflwyniad mwy difyr nag un Dafydd, daeth Josh Smith i’r fei, i ddangos Wordwall a thrafod sut y gellir ei ddefnyddio yn y dosbarth. Un ffordd dda o gadw addysgwyr yn ddiddig yw rhoi teclyn fel hyn iddynt chwarae ag ef!

Yna dangosodd Gavin Browning o Ysgol Uwch Cei Connah rai gweithgareddau PPT effeithiol iawn a grewyd ganddo i ddatblygu llythrennedd yn ei ysgol.

Y nesaf i’r llwyfan oedd Moya Seaman a siaradodd am y ffordd yr oedd llythrennedd dysgwyr yn cael ei ddatblygu yng Ngholeg Llandrillo, trwy ganllawiau marcio cytunedig.

 

A gan Thomas cafwyd arddangosfa gyflym iawn o  Pagesend App.

 

Rhoddodd David Morris o Landrillo lawer i ni feddwl amdano ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn defnyddio cwestiynau yn ein gwersi i hyrwyddo meddwl yn ddwfn.


A daeth y noson i ben gyda Pete Richards yn rhoi popeth yn ei gyd-destun trwy siarad am y darlun mawr.

Diolch anferthol i bawb o’n cyflwynwyr ac i Goleg Llandrillo am y croeso ac i’r technegwyr am ddelio gyda’n holl geisiadau niferus.

Os oes gennych awydd Cwrdd i Ffwrdd eich hunan  ac eisiau i ni ei drefnu gallwch gysylltu â ni ar melanie.blount@gcad-cymru.org.uk

This entry was posted in TeachMeet, Uncategorized and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.