Dysgwrdd Coleg y Drindod

Os nad oeddech chi yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin neithiwr neu’n gwylio’r ffrwd fyw, rydych chi wedi colli noson wych gyda llawer o weithgareddau ffres, cyffrous i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o wynebau newydd yn barod i rannu eu profiadau a chawsom ein plesio’n arw gan yr athrawon dan hyfforddiant a oedd yn ddigon dewr i sefyll i fyny a rhannu eu syniadau eu hunain!

Dechreuodd y noson gyda Helen Lewis yn rhannu manylion prosiect i ddatblygu meddwl yn y Cyfnod Sylfaen. Defnyddir Deialog Myfyriol a Ysgogir gan Fideo – rhoddwyd camerâu i ddisgyblion fel eu bod yn gallu ffilmio eu dysgu. Roedd y canlyniadau’n dangos nid yn unig bod y plant yn dod yn fwy ymwybodol o’u meddwl eu hunain, ond hefyd fod hyn yn caniatáu i athrawon fyfyrio ar y cyfleoedd ar gyfer meddwl a gaiff eu creu ganddynt.

Matthew Jones oedd nesaf, ac mewn dwy funud bu’n trafod y ffordd roedd yn defnyddio ffilm ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar ymholiad. Wedyn daeth Dr Russell Griggs i sôn wrthym am hyrwyddo addysg sy’n seiliedig ar werthoedd trwy ddefnyddio ffotograffiaeth ddigidol. Hefyd rhoddodd ddolen i wici Rachel Boyd sydd â llawer o syniadau defnyddiol ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Bu Tom Cox, sy’n athro ysgol gynradd o Ddinbych-y-pysgod ond a ddylai fod ar y llwyfan, yn dangos i ni sut roedd yn dymchwel y cwricwlwm a defnyddio sgrin werdd i ysbrydoli ysgrifennu creadigol.

Wedyn bu’r hyfryd Bev Evans, sy’n adnabyddus i lawer o bobl os ydyn nhw’n dilyn Dysgwrdd, yn dangos gwefan gynradd i ni o’r enw Build Your Wild Self, ac eglurodd sut y gellir ei defnyddio ar draws y cwricwlwm. Yna bu Tim Burton (na, nid y cyfarwyddwr – ond yn ôl pob tebyg yn llawer mwy difyr) yn trafod sut y dylwn ni fod yn arfogi â’r sgiliau i fod yn wirioneddol lythrennog yn ddigidol. Cyfeiriodd at wefan http://novemberlearning.com/resources/ gan ddweud ei bod yn adnodd gwych ar gyfer llythrennedd digidol.

Yn ystod y ddwy funud nesaf bu Duncan Whitehurst yn dangos i ni sut i greu llyfrau gan ddefnyddio iPad a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddysgu disgyblion. Wedi hynny, i gymeradwyaeth fawr gan y gynulleidfa, bu Manon a Laura, sy’n athrawon dan hyfforddiant, yn siarad am y ffordd roeddent yn defnyddio Beebot yn yr ystafell ddosbarth gyda phlant y Cyfnod Sylfaen. Fe’u dilynwyd yn gyflym gan grŵp arall o fyfyrwyr a roddodd ddadl wych dros ddefnyddio Facebook mewn cyd-destun dysgu a dangos enghreifftiau o’u cymunedau dysgu. Wedyn bu Julia Ault yn ehangu ar y syniad o Gymunedau Dysgu Personol drwy ddangos sut y gellir defnyddio Twitter i ddatblygu cymuned ddysgu fyd-eang. Hefyd rhoddodd arddangosiad gwych ar sut i ddefnyddio rhestrau yn Twitter.

  Dychwelodd Tim i roi cyflwyniad dwy funud cyflym ar ddatblygu cysylltiadau gydag ysgol yn Iwerddon. Fe wnaeth argymell www.epals.com ar gyfer dod o hyd i ysgolion ledled y byd sydd â diddordeb mewn cyfathrebu’n ddigidol.

Wedyn rhoddodd Bev lawer o syniadau i ni ynghylch sut i ddefnyddio Google Maps ar draws y cwricwlwm. Rwy’n arbennig o hoff o’r ffordd y mae’n defnyddio’r wefan ar gyfer adrodd straeon. Yna bu Matthew yn sôn am ddefnyddio lamp hud wrth ffilmio. Roedd y gynulleidfa’n poeni wrth i Gwydion Wynne hedfan drôn o gwmpas yr ystafell – roeddem wedi’i wylio’n ymarfer yn gynharach yn y diwrnod ac yn meddwl tybed a fyddem yn gadael yr ystafell yn ddianaf!

Dangosodd Duncan i ni sut roedd yn defnyddio iPads gyda phlant i ffilmio hysbysebion yn llwyddiannus a chael y plant i werthuso eu gwaith. Hefyd roedd yn ddigon caredig i roi cyfeiriad Blog Grid Dysgu Sir Benfro i bawb, sy’n cynnwys llawer o syniadau ar sut i ddefnyddio iPad yn effeithiol yn y dosbarth. I gloi noson bleserus iawn, bu Bev yn egluro’n gyflym am #addcym a’r sgwrs wythnosol ar Twitter.

Diolch yn fawr iawn i staff a myfyrwyr y Drindod am eich croeso. Ac i’r holl gyflwynwyr am noson o hwyl ac ysbrydoliaeth. Ymddiheuriadau am beidio â chynnwys yr holl gyflwyniadau – methodd y cysylltiad diwifr ac ni welsom rai ohonynt!

This entry was posted in TeachMeet, Uncategorized and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.