Mae pleser mawr gan Gaerdydd trefnu’r Dysgwrdd (Teachmeet) cyntaf erioed yn Gymraeg ar Dydd Mawrth, 21 o Fehefin.
Cyfarfodydd anffurfiol yw Dysgwrdd i athrawon ddod at ei gilydd a mwynhau gweld syniadau dysgu ei gilydd. Bydd cyflwyniadau 3 munud a chyflwyniadau 7 munud, i gyd am Gymraeg Ail Iaith. Gall unrhyw un wneud cyflwyniad ar unrhyw agwedd o ddysgu Cymraeg Ail Iaith. Efallai eich bod chi wedi cael llwyddiant gyda gêm fach, neu efallai bod eich adran wedi mabwysiadu strategaeth newydd. Does dim ots pa mor fach neu pa mor fawr mae’r syniad dewch i’r Dysgwrdd a’i rannu!
I gofrestru am y Dysgwrdd neu i ddarllen mwy amdano ewch i:
http://teachmeet.pbworks.com/w/page/39912353/Dysgwrdd-Caerdydd
Dydd Mawrth 21 Mehefin
5 – 7 pm (gyda thaith o gwmpas y ganolfan am 4.30 i bawb sydd â diddordeb)
Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd, CF10 5AL
Pingback: Daily link digest | Doug Woods