Mae llawer iawn o waith wedi’i gyflawni’n ddistaw bach i fapio ein hadnoddau ar gyfer Prif Ddysgu a Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd y mapio hwn o fudd mawr i athrawon a darlithwyr sy’n ymwneud â chyflwyno cymwysterau Prif Ddysgu. Bydd hi’n haws dod o hyd i adnoddau perthnasol oherwydd byddant yn cael eu dynodi o fewn y meysydd pwnc a’i dynodi’n glir fel rhai sy’n addas ar gyfer unedau penodol.
Mae’r ardal ar y wefan ar gyfer adnoddau addysgu Prif Ddysgu bellach yn fyw a thros y misoedd nesaf bydd presenoldeb ar gyfer yr holl linellau dysgu hynny a gyflwynir http://www.ngfl-cymru.org.uk/eng/vtc-home/vtc-pl.htm
Mae’n rhaid diolch i’r Cynghorau Sgiliau Sector am eu cymorth yn y broses faith hon
Yn ystod y mis nesaf bydd yr ymarfer mapio ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru yn parhau gyda’r adnoddau addysgu yn cael eu nodi yn erbyn meini prawf y safonau newydd. Mae gennym fforwm trafod ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru lle gobeithir y gallwn barhau i rannu gwybodaeth a syniadau a welwn gan ymarferwyr http://www.ngfl-cymru.org.uk/cs/forums/t/196.aspx
Mae gwahoddiad i bawb ymuno ac rydym yn croesawu pawb i gyfrannu.
Wrth i mi ymweld â cholegau a siarad ag ymarferwyr mae’n amlwg bod arfer addysgu rhagorol yn yr ystafelloedd dosbarth. Mae’n hyfryd gallu rhannu’r arfer da hwnnw bob amser ac rwyf yn gyson yn chwilio am awr o’ch amser i gofnodi’r dystiolaeth honno, yn ysgrifenedig neu ar lafar. Cysylltwch â mi os gwelwch yn dda, (peidiwch â bod yn swil!) os ydych eisiau rhannu eich syniadau a’ch arfer wrth ddefnyddio ein hadnoddau addysgu.
Mae peth o’r dystiolaeth hon yn ein hardal Arfer Da ar y wefan… cofiwch… peidiwch ag edrych yn eich pwnc neu lefel yn unig, gallwch ddod o hyd i syniadau da oddi wrth eraill sy’n cyflwyno y tu allan i’ch maes arbenigedd; gellir addasu llawer o syniadau da ar gyfer eich anghenion. Fy manylion cyswllt yw Karen.ford@gcad-cymru.org.uk
Mae adnoddau newydd sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn cynnwys pynciau ym maes Peirianneg, Cerbydau Modur, Seiber Ddiogelwch a Therminoleg Meddygol.
Pam na wnewch chi edrych ar adnoddau a ddatblygwyd cyn hyn ym maes Peirianneg - http://www.ngfl-cymru.org.uk/eng/sir-gar-three-phase-motors
Therminoleg Meddygol - http://www.ngfl-cymru.org.uk/eng/irf109 (Saesneg yn unig)