Adnoddau newydd â thema iddynt ar gyfer pontio’r Cyfnod Sylfaen/CA2

Yn dilyn llwyddiant yr adnoddau Cyfnod Sylfaen fel Tywydd a grewyd i’r Cyfnod Sylfaen is ac Ynys Hwyl a Sbri a grewyd i’r Cyfnod Sylfaen uwch, penderfynwyd parhau â’r thema a chreu adnoddau a fyddai’n ddelfrydol i bontio rhwng blynyddoedd 2 a 3.

Yr wyf wedi bod yn gweithio gyda Sharon Jones o AALl Sir y Fflint ac Owain Roberts yn Cynnal. Gyda’n gilydd rydym wedi creu dwy uned wych; un wedi’i seilio ar y Celtiaid a’r Rhufeiniaid a’r llall wedi’i seilio ar Oes y Tywysogion.  Felly os ydych yn ystyried defnyddio themâu wrth fynd i’r afael â’r cwricwlwm ac y byddwch yn trafod y naill neu’r llall o’r testunau hyn bydd yr adnoddau hyn yn rhai gwych i’w hychwanegu at eich cronfa adnoddau.

Mae’r unedau’n cynnwys straeon rhyngweithiol hyfryd – ydych chi am addysgu’r plant am Llywelyn Fawr? Bydd ein stori yn y pecyn Oes y Tywysogion yn trafod hynny.

Mae gennym weithgareddau mathemateg gwych hefyd – mae Celtiaid a Rhufeiniaid yn edrych ar rifolion Rhufeinig ac Oes y Tywysogion yn gofyn i’r plant beintio map modern neu hynafol o Gymru gan ddefnyddio pedwar lliw, a gwneud yn siŵr nad yw’r un lliw’n cael ei ddefnyddio ar siroedd cyfagos.

Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys stori y gellir ei hargraffu a ffeil mp3 i’w llwytho i lawr o’r stori – gallwch lunio’ch llyfr mawr eich hun i’r plant ei ddefnyddio wrth wrando ar yr mp3.

Mae angen i ni wneud y nodiadau’r athro o hyd ond rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn ar-lein yn fuan iawn.  Os ydych wedi cofrestru â GCaD Cymru byddwch yn derbyn e-bost pan fyddan nhw’n barod. Byddem wrth ein bodd cael gwybod eich barn, felly anfonwch eich adborth atom.

This entry was posted in New Resources and tagged , , , , , , , , , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

One Response to Adnoddau newydd â thema iddynt ar gyfer pontio’r Cyfnod Sylfaen/CA2

  1. Hi just wondered if you’d seen my site. There are some useful bits on there for anyone following the curriculum.

    Best wishes

    Mike