Addysgwyr parod i rannu…

Roeddwn yn hen gyfarwydd â chlywed am yr enwog Bev Evans (@bevevans22) gan bobl wnaeth ei disgrifio felly ar Twitter, ac ati… Gwych felly oedd cael y cyfle i gwrdd â’r unigolyn ei hun yn BETT gyntaf, i ddweud “Helo, chi ydy Bev felly!”, ac yna ddwywaith yn yr un wythnos yr wythnos ddiwethaf. Deuthum ar ei thraws gyntaf mewn HMS i Athrawon Cynradd yng Nghanolfan Howardian yng Nghaerdydd a drefnwyd gan Karen Newby-Jones (@cardiffscience) a gwelais hi wedyn yn cyflwyno yn ein TeachMeet Cardiff cyntaf. Mae’n rhaid i mi ddweud fod Bev yn athrawes ysbrydoledig oherwydd y ffordd mae’n cydblethu technolegau newydd yn yr ystafell ddosbarth ac am ei dawn artistig wych. Gall Bev lunio wynebau hardd gan ddefnyddio offer lluniadu PowerPoint yn unig ac mae’n gallu dysgu i chi sut i wneud hynny gan wneud i’r holl beth edrych yn syml iawn! Beth bynnag, ar ôl y cyfarfod creodd offer datblygu meddwl gwych mewn PowerPoint ac mae’n barod i’w rhannu â GCaD Cymru. Mae ei fersiwn hi o’n ”Learning Caterpillar“, y “My Learning Caterpillar“, i’w weld ar ei Blog a bydd offer gwych arall a wnaed ganddi ar gael ar wefan GCaD Cymru yn fuan. Mae’r Caterpillar yn gyfrwng da iawn i ddysgwyr ifanc fel y gwelwch o’r ddelwedd isod!

Rydym yn ddiolchgar iawn i Bev am fod mor barod i rannu syniadau ac adnoddau gwych. Oni fyddai’n wych pe byddai pob athro/athrawes mor hael â Bev? Os oes gennych chi adnodd gwych felly a syniad da sydd wedi gweithio yn eich dosbarthiadau chi, beth am fod yn hael â’u rhannu â phobl eraill trwy GCaD Cymru?

This entry was posted in Good Practice, Professional Learning Networks, Resources in Development and tagged , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

5 Responses to Addysgwyr parod i rannu…

  1. Karen @cardiffscience says:

    Bev is indeed inspirational and exceedingly generous as is Alessio himself.
    What they’ve both done too is to introduce me to a wide range of teachers and other professionals through twitter. If you are not on twitter yet you should be and need to follow @asober and @bevevans . I’d definitely recommend that as your next step to finding a whole host of brilliant people and ideas…as well as keeping reading the NGfL-Cymru blog of course!
    PS the Thinking Tools CD from NGfL-Cymru is amazing – any idea when they might make it to the website?

  2. Pam Thompson says:

    I’ve never met Bev, but I think she’s a legend. We need more teachers like Bev, who are dedicated to our students’ learning and generous in their sharing with, and mentoring of, other teachers.

    Great to see such innovative things happening in Cardiff. (my hometown until I moved to Australia :-) )

  3. Karen @cardiffscience says:

    I meant @bevevans22 of course :)

  4. Pingback: Tweets that mention When educators are willing to share… | NGfL Cymru Blog -- Topsy.com