GCaD Cymru – Adnoddau, Gwyddoniaeth Cynradd a Blogiau Papur?

Mae’r fideo isod yn amlinellu’r prosiect a gyflawnwyd gan Sue Barker (Athrawes Bl. 4 yn Ysgol Gynradd Allensbank, Caerdydd) gan ddefnyddio adnoddau GCaD Cymru.  Mae’n dangos sut y gellir ysgogi ac ennyn diddordeb plant ynghyd â gwella eu profiadau dysgu o ddefnyddio’r adnoddau mewn modd arloesol a chreadigol. Fe wnaeth disgyblion Sue ym Mlwyddyn 4 ymgymryd â chyfres o wersi ar sain gan ddefnyddio’r adnodd rhyngweithiol hwn gan GCaD Cymru.  Fe ddefnyddion nhw synwyryddion sain i fesur arddwysedd y sain a gynhyrchwyd gan gloch, a allai fynd drwy ddefnyddiau gwahanol a defnyddio grid Asesu ar gyfer Dysgu GCaD Cymru i lunio eu siartiau bar.

Yna, fe wnaeth pob grŵp flogiau papur i rannu eu canfyddiadau gyda gweddill y dosbarth. Ar ddiwedd y gweithgaredd bu’r dysgwyr yn symud o amgylch y dosbarth i ddarllen blogiau’r grwpiau eraill a gawsant eu harddangos ar y wal a buont yn defnyddio nodiadau gludiog i nodi eu sylwadau ar flogiau papur y naill grŵp a’r llall! Roedd hwn yn ddull arbennig o gael plant i ymgysylltu er mwyn adrodd yn ôl ac adfyfyrio ar eu gwaith, tra eu bod hefyd yn datblygu llythrennedd mewn dosbarth lle mae nifer fawr o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel eu hail iaith ac yn dod o wledydd tramor.

Mae GCaD Cymru GCaD Cymru yn falch o letya blogiau’r plant ar ein blog newydd sbon a chredwn ei bod yn ffordd hyfryd o lansio ein blog. Felly, y blogiau ffantastig a grëwyd gan y plant yn Ysgol Gynradd Allensbank bydd y saith postiad nesaf. Mae croeso i chi adael sylw ar ein blogiau i westeion, pe dymunech wneud hynny, gan ein bod yn sicr y bydd y plant yn gwerthfawrogi eich anogaeth yn fawr iawn!

Gallwch weld y dudalen adnoddau Arfer Da yn gyflawn yma.

This entry was posted in Allensbank Primary Blogs, Arfer Da, Good Practice and tagged , , , , , , , , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

One Response to GCaD Cymru – Adnoddau, Gwyddoniaeth Cynradd a Blogiau Papur?

  1. Rather useful piece